Llyfr Exodus 10:6
Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Aiphtiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharaoh.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 8:21O herwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th dai, gymmysgbla: a thai yr Aiphtiaid a lenwir o’r gymmysgbla, a’r ddaear hefyd yr hon y maent arni.
Exodus 9:24Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymmeryd y’nghanol y cenllysg, yn flin iawn, yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aipht, er pan ydoedd yn genhedlaeth.
Exodus 10:14A’r locustiaid a aethant i fynu dros holl wlad yr Aipht, ac a arhosasant ym mhob ardal i’r Aipht: blin iawn oeddynt; ni bu y fath locustiaid o’u blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb.
Exodus 11:8A’th holl weision hyn a ddeuant i waered attaf fi, ac a ymgrymmant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ol; ac wedi hynny yr âf fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharaoh mewn digllonedd llidiog.
Joel 2:9Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mur, dringant i'r tai; ânt i mewn trwy y ffenestri fel lleidr.