The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 10

1etto efe a galon-galedir. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharaoh: o herwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef:

2Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aipht; a’m harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt; ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

4O herwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl, wele, y fory y dygaf locustiaid i’th fro;

5A hwynt-hwy a orchuddiant wyneb y ddaear, fel na allo un weled y ddaear; a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddïangol gan y cenllysg, difant hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes.

6Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Aiphtiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharaoh.

7A gweision Pharaoh a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr Arglwydd eu Duw: Oni wyddost ti etto ddifetha yr Aipht?

8A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharaoh: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw: ond pa rai sydd yn myned?

9A Moses a ddywedodd, A’n llangciau, ac â’n hynafgwyr, yr awn ni; a’n meibion hefyd, ac â’n merched, â’n defaid, ac â’n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gwyl i’r Arglwydd.

10Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo yr Arglwydd gyd â chwi, ag y gollyngaf chwi, a’ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd.

11Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr Arglwydd: canys hyn yr oeddych yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharaoh.

12¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aipht am locustiaid, fel y delont i fynu ar dir yr Aipht; ac y bwyttaont holl lysiau y ddaear, sef y cwbl a’r a adawodd y cenllysg.

13A Moses a estynodd ei wïalen ar dir yr Aipht: a’r Arglwydd a ddug ddwyrein-wynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.

14A’r locustiaid a aethant i fynu dros holl wlad yr Aipht, ac a arhosasant ym mhob ardal i’r Aipht: blin iawn oeddynt; ni bu y fath locustiaid o’u blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb.

15Canys toisant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aipht.

16¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau.

17Ac yn awr maddeu, attolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.

18A Moses a aeth allan oddi wrth Pharaoh, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.

19A’r Arglwydd a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymmerodd ymaith y locustiaid, ac a’u bwriodd hwynt i’r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aipht.

20Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.

21¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law tu a’r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aipht, tywyllwch a aller ei deimlo.

22A Moses a estynodd ei law tu a’r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aipht dri diwrnod.

23Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.

24¶ A galwodd Pharaoh am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd; arhôed eich defaid, a’ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyd â chwi.

25A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylaw ebyrth a phoeth-offrymmau, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.

26Aed ein hanifeiliaid hefyd gyd â ni; ni adewir ewin yn ol: oblegid o honynt y cymmerwn i wasanaethu yr Arglwydd ein Duw: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr Arglwydd, hyd oni ddelom yno.

27¶ Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pharaoh, ac ni fynnai eu gollwng hwynt.

28A dywedodd Pharaoh wrtho. Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw.

29A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy.

← Llyfr Exodus 9Read In The App, Free →Llyfr Exodus 11 →

Study Llyfr Exodus 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940