Llyfr Exodus 14:13
¶ A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddyw; oblegid yr Aiphtiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.
Cross References
Genesis 26:24A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad ti: nac ofna; canys byddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf, ac a lïosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.
Exodus 14:30Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Aiphtiaid: a gwelodd Israel yr Aiphtiaid yn feirw ar fin y môr.
Numbers 14:9Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd sydd gyd â ni: nac ofnwch hwynt.
2 Kings 6:16Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na’r rhai sydd gyda hwynt.
2 Chronicles 20:15Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo DDUW.
Nehemiah 9:9Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aifft; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch: