Llyfr Exodus 14
1a’r Aiphtiaid yn boddi ynddo. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a’r môr, o flaen Baal-sephon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrthi y môr.
3Canys dywed Pharaoh am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; cauodd yr anialwch arnynt.
4A mi a galedaf galon Pharaoh, fel yr erlidio ar eu hol hwynt: felly y’m gogoneddir ar Pharaoh, a’i holl fyddin; a’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Ac felly y gwnaethant.
5¶ A mynegwyd i frenhin yr Aipht, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharaoh a’i weisionyn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu?
6Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymmerodd ei bobl gyd âg ef.
7A chymmerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aipht, a chapteniaid ar bob un o honynt.
8A’r Arglwydd a galedasai galon Pharaoh brenhin yr Aipht, ac efe a ymlidiodd ar ol meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel.
9A’r Aiphtiaid a ymlidiasant ar eu hol hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharaoh, a’i wŷr meirch, a’i fyddin, ac a’u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, ger llaw Pihahiroth, o flaen Baal-sephon.
10¶ A phan nesaodd Pharaoh, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Aiphtiaid yn dyfod ar eu hol; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd.
11A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aipht, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aipht?
12Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aipht, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Aiphtiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu yr Aiphtiaid, na marw yn yr anialwch.
13¶ A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddyw; oblegid yr Aiphtiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.
14Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.
15¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Paham y gweiddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt.
16A chyfod dithau dy wïalen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych.
17Wele, fi, ïe, myfi a galedaf galon yr Aiphtiaid, fel y delont ar eu hol hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharaoh, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar eu farchogion.
18A’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan y’m gogoneddir ar Pharaoh, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.
19¶ Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symmudodd, ac a aeth o’u hol hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt, ac a safodd o’u hol hwynt.
20Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Aiphtiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmmwl ac yn dywyllwch i’r Aiphtiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.
21A Moses a estynodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ol, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
22A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu dehau, ac o’r tu aswy.
23¶ A’r Aiphtiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hol hwynt; sef holl feirch Pharaoh, a’i gerbydau, a’r farchogion, i ganol y môr.
24Ac ar y wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Aiphtiaid trwy y golofn dân a’r cwmmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Aiphtiaid.
25Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Aiphtiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aiphtiaid.
26¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo’r dyfroedd ar yr Aiphtiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.
27A Moses a estynodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i’w nerth; a’r Aiphtiaid a ffoisant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a ddymchwelodd yr Aiphtiaid yng nghanol y môr.
28A’r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion: a holl fyddin Pharaoh, y rhai a ddaethant ar eu hol hwynt i’r môr: ni adawyd o honynt gymmaint ag un.
29Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych y’nghanol y môr: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddehau, ac ar y llaw aswy.
30Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Aiphtiaid: a gwelodd Israel yr Aiphtiaid yn feirw ar fin y môr.
31A gwelodd Israel y grymmusder mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Aiphtiaid: a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i’r Arglwydd ac i’w was ef Moses.