Llyfr Exodus 14:21
A Moses a estynodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ol, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 14:16A chyfod dithau dy wïalen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych.
Joshua 2:10Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaeth och allan o’r Aipht; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenhin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.
Joshua 4:23Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd:
Job 26:12Efe a ranna y môr a’i nerth, ac a dery falchder â’i ddoethineb.
Psalms 66:6Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid.
Psalms 78:13Dy ffordd, O DDUW, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n DUW ni?