Llyfr Exodus 18
1Jethro yn ymadael. Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aipht;
2Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymmerodd Sephorah gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hol,)
3A’i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dïeithr fûm mewn gwlad estronol.
4Ac enw y llall oedd Eliezer: o herwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi, eb efe, ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharaoh.
5A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu ger llaw mynydd Duw.
6Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod attat ti, a’th wraig a’i dau fab gyd â hi.
7¶ A Moses a aeth allan i gyfar fod â’i chwegrwn; ac a ymgrymmodd, ac a’i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i’r babell.
8A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharaoh ac i’r Aiphtiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt.
9A llawenychodd Jethro o herwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Aiphtiaid.
10A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Aiphtiaid, ac o law Pharaoh; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Aiphtiaid.
11Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch o hono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.
12A Jethro, chwegrwn Moses, a gymmerodd boeth-offrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwytta bara gyd â chwegrwn Moses, ger bron Duw.
13¶ A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu y bobl: a safodd y bobl ger bron Moses, o’r bore hyd yr hwyr.
14A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r bore hyd yr hwyr?
15A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod attaf i ymgynghori â Duw.
16Pan fyddo iddynt achos, attaf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a’i gilydd, ac yn hysbysu deddfau Duw a’i gyfreithiau.
17A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.
18Tydi a lwyr ddiffygi, a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyd â thi: canys rhy drwm yw’r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun.
19Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd Duw gyd â thi: Bydd di dros y bobl ger bron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw.
20Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd a wnant.
21Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni, Duw, gwŷr geirwir, yn casâu cybydd-dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.
22A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr attat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhêi arnat dy hun, a hwynt-hwy a ddygant y baich gyd â thi.
23Os y peth hyn a wnei, a’i orchymyn o Dduw i ti; yna ti a elli barhâu, a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch.
24A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.
25A Moses a ddewisodd wŷr grymmus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn bennaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.
26A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.
27¶ A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i’w wlad.