Llyfr Exodus 19:13
Na chyffyrdded llaw âg ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano yr udgorn yn hirllaes, deuant i’r mynydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 19:16A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmmwl tew ar y mynydd, a llais yr udgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.
Exodus 21:28¶ Ac os ŷch a gornia wr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ŷch, ac na fwyttâer ei gig ef; ac aed perchen yr ŷch yn rhydd.
Leviticus 20:15A lladder yn farw y gwr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail.
1 Corinthians 15:52Canys yr utgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir.
Hebrews 12:20(Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell.