The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 19

1Dychrynllyd bresennoldeb Duw ar y mynydd. Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.

2Canys hwy a aethant o Rephidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai, gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd.

3A Moses a aeth i fynu at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel;

4Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Aiphtiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais attaf fi fy hun.

5Yn awr, gan hynny, os gan wrandaw y gwrandêwch ar fy llais, a chadw fy nghyfammod, chwi a fyddwch yn drysor prïodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddo fi yr holl ddaear.

6A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma y geiriau a leferi di wrth feibion Israel.

7¶ A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchymynasai yr Arglwydd iddo.

8A’r holl bobl a gyd-attebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd.

9A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf attat mewn cwmmwl tew, fel y clywo y bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd.

10¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddyw ac yfory; a golchant eu dillad,

11A byddant barod erbyn y trydydd dydd: o herwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd y’ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.

12A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fynu i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwrr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw.

13Na chyffyrdded llaw âg ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano yr udgorn yn hirllaes, deuant i’r mynydd.

14¶ A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.

15Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd.

16A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmmwl tew ar y mynydd, a llais yr udgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.

17A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant y’ngodre y mynydd.

18A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, o herwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.

19Pan ydoedd llais yr udgorn yn hir, ac yn cryfhâu fwyfwy, Moses a lefarodd; a Duw a attebodd mewn llais.

20A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fynu.

21A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i’r bobl; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylldremmu, a chwympo llawer o honynt.

22Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr Arglwydd; rhag i’r Arglwydd ruthro arnynt.

23A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Ni ddichon y bobl ddyfod i fynu i fynudd Sinai; oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef.

24A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fynu, ac Aaron gyd â thi; ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fynu at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.

25Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywededd wrthynt.

← Llyfr Exodus 18Read In The App, Free →Llyfr Exodus 20 →

Study Llyfr Exodus 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940