Llyfr Exodus 19:6
A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma y geiriau a leferi di wrth feibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 28:36¶ Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nâdd arni, fel naddiadau sêl, sancteiddrwydd i’r Arglwydd.
Leviticus 11:45Canys myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn DDUW i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
Leviticus 20:24Ac wrthych y dywedais, Chwi a etifeddwch eu tir hwynt; mi a’i rhoddaf i chwi i’w feddiannu; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a’ch neillduais chwi oddi wrth bobloedd eraill.
Leviticus 21:7Na chymmerant butteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymmerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gwr; o herwydd sanctaidd yw efe i’w Dduw.
Numbers 16:3Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynnulleidfa yn sanctaidd bob un o honynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynnulleidfa yr Arglwydd?
Deuteronomy 14:21¶ Na fwyttêwch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dïeithr fyddo yn dy byrth, a bwyttâed ef; neu gwerth ef i’r dïeithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam.