Llyfr Exodus 2:10
Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a’i dug ef i ferch Pharaoh; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; herwydd, eb hi, o’r dwfr y tynnais ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 16:11Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di.
1 Samuel 1:20A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr ARGLWYDD y dymunais ef, eb hi.
Acts 7:21Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a’i cyfododd ef i fyny, ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun.
Hebrews 11:24Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo,