Llyfr Exodus 2
1Duw yn ystyried uchenaid yr Israeliaid. Yna gwr o dŷ Lefi a aeth, ac a brïododd ferch i Lefi.
2A’r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi al cuddiodd ef dri mis.
3A phan na allai hi ei guddio ef yn hŵy, hi a gymmerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a’i rhoddodd ym mysg yr hesg ar fin yr afon.
4A’i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wnaid iddo ef.
5¶ A merch Pharaoh a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi; (a’i llangcesau oedd yn rhodio ger llaw yr afon;) a hi a ganfu y cawell y’nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llaw-fonwyn i’w gyrchu ef.
6Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu y bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn.
7Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharaoh, A âf fi i alw attat fammaeth o’r Hebrëesau, fel y mago hi y bachgen i ti?
8A merch Pharaoh a ddywedodd wrthi, Dos. A’r llangces a aeth ac a alwodd fam y bachgen.
9A dywedodd merch Pharaoh wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A’r wraig a gymmerodd y bachgen, ac a’i magodd.
10Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a’i dug ef i ferch Pharaoh; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; herwydd, eb hi, o’r dwfr y tynnais ef.
11¶ A bu yn y dyddiau hynny, pan aeth Moses yn fawr, fyned o hono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Aiphtwr yn taro Hebrëwr, un o’i frodyr.
12Ac efe a edrychodd yma ac accw; a phan welodd nad oedd yno neb, efe a laddodd yr Aiphtiad, ac a’i cuddiodd yn y tywod.
13Ac efe a aeth allan yr ail dydd; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam, Paham y tarewi dy gyfaill?
14A dywedodd yntau, Pwy a’th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Aiphtiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Dïau y gwyddir y peth hyn.
15Pan glybu Pharaoh y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharaoh, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew.
16Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a’r rhai hynny a ddaethant ac a dynnasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhâu defaid eu tad.
17Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a’u gyrrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a’u cynnorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt.
18Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddyw cyn gynted?
19A hwy a ddywedasant, Aiphtwr a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd.
20Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gwr? Gelwch arno, a bwyttâed fara.
21A bu Moses foddlawn i drigo gyd â’r gwr: ac yntau a roddodd Sephorah ei ferch i Moses.
22A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: O herwydd dïeithr, eb efe, a fûm i mewn gwlad ddïeithr.
23¶ Ac yn ol dyddiau lawer, bu farw brenhin yr Aipht; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a’u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw, oblegid y caethiwed.
24A Duw a glybu eu huchenaid hwynt; a Duw a gofiodd ei gyfammod âg Abraham, âg Isaac, ac â Jacob.
25A Duw a edrychodd ar blant Israel; Duw hefyd a gydnabu â hwynt.