Llyfr Exodus 20:17
Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaeth-ferch, na’i ŷch, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymmydog.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
Cross References
Genesis 3:6A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymmerth o’i ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes i’w gwr hefyd gyd â hi, ac efe a fwyttaodd.
Genesis 34:23Eu hanifeiliaid hwynt, a’u cyfoeth hwynt, a’u holl ysgrubliaid hwynt, onid eiddo ni fyddant hwy? yn unig cyttunwn â hwynt, a hwy a drigant gyd â ni.
1 Samuel 15:19Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD? º
Job 31:1Myfi a wneuthum amod â’m llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn?
Psalms 10:3Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di.
Proverbs 4:23Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.