The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 20

1Portreiad yr allor. A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd,

2Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.

3Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.

4Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear.

5Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y dryd edd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;

6Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.

7Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dïeuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.

8Cofia y dydd Sabbath, i’w sancteiddio ef.

9Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

10Ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaeth-ferch, na’th anifail, na’th ddïeithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:

11O herwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orphwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabbath, ac a’i sancteiddiodd ef.

12¶ Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

13Na ladd.

14Na wna odineb.

15Na ladratta.

16Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.

17Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaeth-ferch, na’i ŷch, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymmydog.

18¶ A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr udgorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.

19A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandâwn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw.

20A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; o herwydd i’ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.

21A safodd y bobl o hirbell; a nesâodd Moses i’r tywyllwch, lle yr ydoedd Duw.

22¶ A’r Arglwydd a ddywededd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel, Chwi a welsoch mai o’r nefoedd y lleferais wrthych.

23Na wnewch gyd â mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.

24¶ Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boeth-ebyrth a’th offrymmau hedd, dy ddefaid, a’th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw, y deuaf attat, ac y’th fendithiaf.

25Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gottech dy forthwyl arni, ti a’i halogaist hi.

26Ac na ddos i fynu ar hyd grisiau i’m hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.

← Llyfr Exodus 19Read In The App, Free →Llyfr Exodus 21 →

Study Llyfr Exodus 20

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940