Llyfr Exodus 22:11
Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at ddâ ei gymmydog; a chymmered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Ac os gan ladratta y lladrattêir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i’w berchennog.
Cross References
Exodus 22:8Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynodd efe ei law at ddâ ei gymmydog.
Leviticus 5:1ac mewn pechodau o anwybod. Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.
1 Kings 2:42A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho. Oni pherais i ti dyngu i’r ARGLWYDD, ac oni thystiolaethais wrthyt, gan ddywedyd, Yn y dydd yr elych allan, ac yr elych nac yma nac acw, gan wybod gwybydd y lleddir di yn farw? a thi a ddywedaist wrthyf. Da yw y gair a glywais.
Hebrews 6:16Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy: a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson.