The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 22

1Am flaen-ffrwythau. Os lladratta un ŷch neu ddafad, a’i ladd, neu ei werthu; taled bùm ŷch am ŷch, a phedair dafad am ddafad.

2Os ceir lleidr yn torri tŷ, a’i daro fel y byddo farw; na choller gwaed am dano.

3Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed am dano; efe a ddyly gwbl-dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad.

4Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.

5¶ Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o’r hyn goreu yn ei faes ei hun, ac o’r hyn goreu yn ei winllan ei hun.

6¶ Os tân a dyrr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difâer dâs o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl-daled yr hwn a gynneuodd y tân.

7Os rhydd un i’w gymmydog arian, neu ddodrefn i gadw, a’i ladratta o dŷ y gwr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl:

8Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynodd efe ei law at ddâ ei gymmydog.

9Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau ger bron y barnwyr; a’r hwn y barno y swyddogion yn ei erbyn, taled i’w gymmydog yn ddwbl.

10Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymmydog i gadw, a marw o hono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled:

11Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at ddâ ei gymmydog; a chymmered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn.

12Ac os gan ladratta y lladrattêir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i’w berchennog.

13Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.

14¶ Ond os benthyccia un gan ei gymmydog ddim, a’i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gyd âg ef, gan dalu taled.

15Os ei berchennog fydd gyd âg ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.

16¶ Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyd â hi; gan gynnysgaeddu cynnysgaedded hi yn wraig iddo ei hun.

17Os ei thad a lwyr-wrthyd ei rhoddi hi iddo, taled arian yn ol gwaddol morynion.

18¶ Na chaffed hudoles fyw.

19¶ Llwyr-rodder i farwolaeth bob un a orweddo gyd âg anifail.

20¶ Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unig.

21¶ Na orthrymma, ac na flina y dïeithr: canys dïeithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aipht.

22¶ Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad.

23Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gwaeddi o honynt ddim arnaf; mi a lwyr-wrandawaf eu gwaedd hwynt;

24A’m digofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn amddifaid.

25¶ Os echwynni arian i’m pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel occrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt.

26Os cymmeri ddilledyn dy gymmydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul:

27O herwydd hynny yn unig sydd i’w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrandaw; canys trugarog ydwyf fi.

28¶ Na chabla y swyddogion; ac na felldithia bennaeth dy bobl.

29¶ Nac oeda dalu y cyntaf o’th ffrwythau aeddfed, ac o’th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf-anedig o’th feibion.

30Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyd â’i fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.

31¶ A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: ac na fwyttêwch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i’r ci.

← Llyfr Exodus 21Read In The App, Free →Llyfr Exodus 23 →

Study Llyfr Exodus 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940