Llyfr Exodus 23:1
Addaw angel, a bendithio, os hwy a ufuddhânt. Na chyfod enllib; na ddod dy law gyd â’r annuwiol i fod yn dyst anwir.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 20:16Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
Leviticus 19:11¶ Na ladrattêwch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymmydog.
Deuteronomy 5:20Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
2 Samuel 16:3A’r brenin a ddywedodd, A pha le y mae mab dy feistr? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele, y mae efe yn aros yn Jerwsalem: canys efe a ddywedodd, Tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad.
1 Kings 21:10Cyflewch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn âg ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist DDUW a’r brenin. Ac yna dygwch efallan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw. º
Psalms 27:12Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O ARGLWYDD. 5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. 6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD. 7 Clyw, O ARGLWYDD, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. 8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O ARGLWYDD. 9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi. O DDUW fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr ARGLWYDD a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, ARGLWYDD, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn.