Llyfr Exodus 23
1Addaw angel, a bendithio, os hwy a ufuddhânt. Na chyfod enllib; na ddod dy law gyd â’r annuwiol i fod yn dyst anwir.
2¶ Na ddilyn lïaws i wneuthur drwg; ac nac atteb mewn ymrafael, gan bwyso yn ol llaweroedd, i ŵyro barn.
3¶ Na pharcha y tlawd chwaith yn ei ymrafael.
4¶ Os cyfarfyddi âg eidion dy elyn, neu â’i asyn, yn myned ar gyfrgoll; dychwel ef adref iddo.
5Os gweli asyn yr hwn a’th gasâ yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â’i gynnorthwyo? gan gynnorthwyo cynnorthwya gyd âg ef.
6Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael.
7Ymgadw ym mhell oddi wrth gam-fatter: na ladd chwaith na’r gwirion na’r cyfiawn: canys ni chyfiawnhâf fi yr annuwiol.
8¶ Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
9¶ Na orthrymma y dïeithr: chwi a wyddoch galon y dïeithr; o herwydd chwi a fuoch ddïeithriaid yn nhir yr Aipht.
10Chwe blynedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth:
11A’r seithfed paid âg ef, a gâd ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwytta: a bwyttâed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olew-wydden.
12Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorphwysi: fel y caffo dy ŷch a’th asyn lonyddwch, ac y cymmero mab dy forwyn gaeth, a’r dïeithr ddyn, ei anadl atto.
13Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch ehw duwiau eraill; na chlywer hynny o’th enau.
14¶ Teirgwaith yn y flwyddyn y cedwi wyl i mi.
15Gwyl y bara croyw a gedwi: saith niwrnod y bwyttêi fara croyw, fel y gorchymynais i ti, ar yr amser gosodedig o fis Abib: canys ynddo y daethost allan o’r Aipht: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw:
16A gwyl cynhauaf blaen-ffrwyth dy lafur, yr hwn a heuaist yn y maes; a gwyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynhullech dy lafur o’r maes.
17Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrrywiaid ger bron yr Arglwydd dy Dduw.
18Nac abertha waed fy aberth gyd â bara lefeinllyd, ac nac arhôed brasder fy aberth dros nos hyd y bore.
19Dwg i dŷ yr Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaen-ffrwyth dy dir. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam.
20¶ Wele fi yn anfon angel o’th flaen i’th gadw ar y ffordd, ac i’th arwain i’r man a barottoais.
21Gwylia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddïoddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef.
22Os gan wrandaw y gwrandewi ar ei lais ef, a gwneuthur y cwbl a lefarwyf; mi a fyddaf elyn i’th elynion, ac a wrthwynebaf dy wrthwynebwyr.
23O herwydd fy angel a â o’th flaen di, ac a’th ddwg di i mewn at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u difethaf hwynt.
24Nac ymgrymma i’w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ol eu gweithredoedd hwynt; ond llwyr-ddinystria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll.
25A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, ac efe a fendithia dy fara, a’th ddwfr; a mi a dynnaf ymaith bob clefyd o’th fysg.
26¶ Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau.
27Mi a anfonaf fy arswyd o’th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui attynt, ac a wnaf i’th holl elynion droi eu gwarrau attat.
28A mi a anfonaf gaccwn o’th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, allan o’th flaen di.
29Ni yrraf hwynt allan o’th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhâu yn dy erbyn di.
30O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o’th flaen di, nes i ti gynnyddu ac etifeddu y tir.
31A gosodaf dy derfyn o’r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o’r diffaethwch hyd yr afon; canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a’u gyrri hwynt allan o’th flaen.
32Na wna ammod â hwynt, nac â’u duwiau.
33Na âd iddynt drigo yn dy wlad; rhag iddynt beri i ti bechu i’m herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, dïau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.