Llyfr Exodus 23:29
Ni yrraf hwynt allan o’th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhâu yn dy erbyn di.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
30O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o’th flaen di, nes i ti gynnyddu ac etifeddu y tir.
Cross References
Deuteronomy 7:22A’r Arglwydd dy Dduw a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.
Joshua 16:10Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Gezer: am hynny y trigodd y Canaaneaid ym mhlith yr Ephraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.
Judges 3:1DYMA y cenhedloedd a adawodd yr ARGLWYDD i brofi Israel trwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan;