Llyfr Exodus 27:2
A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn; a gwisg hi â phres.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 38:30Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a’r allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri yr allor;
Leviticus 4:18A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poeth-offrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Leviticus 8:15Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymmerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cyssegrodd hi, i wneuthur cymmod arni.
Numbers 16:38Sef thusserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i’r allor; canys offrymmasant hwynt ger bron yr Arglwydd; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel.
1 Kings 2:28A’r chwedl a ddaeth at Joab: canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia, er na wyrasai efe ar ôl Absalom. A ffodd Joab i babell yr ARGLWYDD, ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.