The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 27

1Yr olew i’r lamp. Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bùm cufydd o hŷd, a phùm cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a’i huchder o dri chufydd.

2A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn; a gwisg hi â phres.

3Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a’i rhawiau, a’i chawgiau, a’i chigweiniau, a’i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.

4A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl.

5A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo y rhwyd hyd hanner yr allor.

6A gwna drosolion i’r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.

7A dod ei throsolion trwy y modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i’w dwyn hi.

8Gwna hi âg ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnant hi.

9¶ A gwna gynteddfa y tabernacl ar y tu dehau, tu a’r dehau: llenni’r cynteddfa a fyddant lïan main cyfrodedd, o gàn cufydd o hŷd, i un ystlys.

10A’i hugain colofn, a’u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a’u cylchau, fydd o arian.

11Felly o du’r gogledd ar hŷd, y bydd llenni o gàn cufydd o hŷd, a’u hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres; a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian.

12¶ Ac i led y cynteddfa, o du y gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a’u morteisiau yn ddeg.

13A lled y cynteddfa, tu a’r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain.

14Y llenni o’r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a’u morteisiau yn dair.

15Ac i’r ail du y bydd pymtheg llèn; eu tair colofn, a’u tair mortais.

16¶ Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd o wnïadwaith; eu pedair colofn, a’u pedair mortais.

17Holl golofnau y cynteddfa o amgylch a gylchir âg arian; a’u pennau yn arian, a’u morteisiau yn bres.

18¶ Hŷd y cynteddfa fydd gàn cufydd, a’i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phùm cufydd o uchder o lïan main cyfrodedd, a’u morteisiau o bres.

19Holl lestri y tabernacl yn eu holl wasanaeth, a’i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.

20¶ A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn o honynt attat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i’r lamp losgi yn wastad.

21Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i’r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, ger bron yr Arglwydd: deddf dragywyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.

← Llyfr Exodus 26Read In The App, Free →Llyfr Exodus 28 →

Study Llyfr Exodus 27

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940