Llyfr Exodus 27:9
¶ A gwna gynteddfa y tabernacl ar y tu dehau, tu a’r dehau: llenni’r cynteddfa a fyddant lïan main cyfrodedd, o gàn cufydd o hŷd, i un ystlys.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8Gwna hi âg ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnant hi.
10A’i hugain colofn, a’u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a’u cylchau, fydd o arian.
Cross References
Exodus 26:31¶ A gwna wahanlen o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd: â cherubiaid o waith cywraint y gwnei hi.
Exodus 36:17Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llèn yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llèn y’nghydiad yr ail.
Exodus 39:40Llenni y cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a’i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell cyfarfod;
Numbers 3:26A llenni y cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau i’w holl wasanaeth.
Numbers 4:32A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau, ynghyd â’u holl offer, ac ynghyd â’u holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy.
1 Kings 8:64Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr ARGLWYDD: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a’r bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr ARGLWYDD, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a’r bwyd-offrymau, a braster yr offrymau hedd. º