Llyfr Exodus 29:29
¶ A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i’w feibion ar ei ol ef, i’w henneinio ynddynt, ac i’w cyssegru ynddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 28:3A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i âg yspryd doethineb, am wneuthur o honynt ddillad Aaron i’w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi.
Exodus 30:30Enneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chyssegra hwynt, i offeiriadu i mi.
Leviticus 8:1Y lle a’r amser y cyssegrid hwynt. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
Leviticus 16:32A’r offeiriad, yr hwn a enneinio efe, a’r hwn a gyssegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna y cymmod, ac a wisg y gwisgoedd llïan, sef y gwisgoedd sanctaidd:
Numbers 20:26A dïosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleazar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno.
Numbers 35:25Ac achubed y gynnulleidfa y llofrudd O law dïalydd y gwaed, a thröed y gynnulleidfa ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr arch-offeiriad, yr hwn a enneiniwyd â’r olew cyssegredig.