Llyfr Exodus 29
1Addewid Duw ar drigo ym mhlith plant Israel. Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i’w cyssegru hwynt, i offeiriadu i mi. Cymmer un bustach ieuangc, a dau hwrdd perffeith-gwbl,
2A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymmysgu âg olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro âg olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt.
3A dod hwynt mewn un cawell, a dwg hwynt yn y cawell, gyd â’r bustach a’r ddau hwrdd.
4Dwg hefyd Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.
5A chymmer y gwisgoedd, a gwisg am Aaron y bais, a mantell yr ephod, a’r ephod hefyd, a’r ddwyfronneg; a gwregysa ef â gwregys yr ephod.
6A gosod y meitr ar ei ben ef, a dod y goron gyssegredig ar y meitr.
7Yna y cymmeri olew yr enneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr enneini ef.
8A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau am danynt.
9A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a’i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragywyddol: a thi a gyssegri Aaron a’i feibion.
10A phâr ddwyn y bustach ger bron pabell y cyfarfod; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylaw ar ben y bustach.
11A lladd y bustach ger bron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12A chymmer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â’th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor.
13Cymmer hefyd yr holl frasder a fydd yn gorchuddio y perfedd, a’r rhwyden a fyddo ar yr afu, a’r ddwy aren, a’r brasder a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.
14Ond cig y bustach, a’i groen, a’i fiswail, a losgi mewn tân, o’r tu allan i’r gwersyll: aberth dros bechod yw.
15¶ Cymmer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a’i feibion eu dwylaw ar ben yr hwrdd.
16A lladd yr hwrdd; a chymmer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch.
17A thorr yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a’i draed, a dod hwynt ynghyd â’i ddarnau, ac â’i ben.
18A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poeth-offrwm i’r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
19¶ A chymmer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylaw ar ben yr hwrdd.
20Yna lladd yr hwrdd, a chymmer o’i waed, a dod ar gwr isaf clust ddehau Aaron, ac ar gwrr isaf clust ddehau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddehau hwynt, ac ar fawd eu troed dehau hwynt; a thaenella y gwaed arall ar yr allor o amgylch.
21A chymmer o’r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew yr enneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gyd âg ef: felly sanctaidd fydd efe a’i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gyd âg ef.
22Cymmer hefyd o’r hwrdd, y gwer a’r gloren, a’r gwer sydd yn gorchuddio’r perfedd, a rhwyden yr afu, a’r ddwy aren, a’r gwêr sydd arnynt, a’r ysgwyddog ddehau; canys hwrdd cyssegriad yw:
23Ac un dorth o fara, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen o gawell y bara croyw, yr hwn sydd ger bron yr Arglwydd.
24A dod y cwbl yn nwylaw Aaron, ac yn nwylaw ei feibion: a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.
25A chymmer hwynt o’u dwylaw, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd ger bron yr Arglwydd: aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
26Cymmer hefyd barwyden hwrdd y cyssegriad yr hwn fyddo dros Aaron, a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd; a’th ran di fydd.
27A sancteiddia barwyden yr offrwm cyhwfan, ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael, yr hon a gyhwfanwyd, a’r hon a ddyrchafwyd, o hwrdd y cyssegriad, o’r hwn a fyddo dros Aaron, ac o’r hwn a fyddo dros ei feibion.
28Ac eiddo Aaron a’i feibion fydd trwy ddeddf dragywyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm dyrchafael yw; ac offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o’u haberthau hedd, sef eu hoffrwm dyrchafael i’r Arglwydd.
29¶ A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i’w feibion ar ei ol ef, i’w henneinio ynddynt, ac i’w cyssegru ynddynt.
30Yr hwn o’i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, a’u gwisg hwynt saith niwrnod, pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cyssegr.
31¶ A chymmer hwrdd y cyssegriad, a berwa ei gig yn y lle sanctaidd.
32A bwyttâed Aaron a’i feibion gig yr hwrdd, a’r bara yr hwn fydd yn y cawell, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
33A hwy a fwyttânt y pethau hyn y gwnaed y cymmod â hwynt, i’w cyssegru hwynt ac i’w sancteiddio: ond y dïeithr ni chaiff eu bwytta; canys cyssegredig ydynt.
34Ac os gweddillir o gig y cyssegriad, neu o’r bara, hyd y bore, yna ti a losgi’r gweddill â thân: ni cheir ei fwytta, oblegid cyssegredig yw.
35A gwna fel hyn i Aaron, ac i’w feibion, yn ol yr hyn oll a orchymynais i ti: saith niwrnod y cyssegri hwynt.
36A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymmod: a glanhâ yr allor, wedi i ti wneuthur cymmod drosti, ac enneinia hi, i’w chyssegru.
37Saith niwrnod y gwnei gymmod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â’r allor, a sancteiddir.
38¶ A dyma yr hyn a offrymmi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol.
39Yr oen cyntaf a offrymmi di y bore; a’r ail pen a offrymmi di yn y cyfnos.
40A chyd â’r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymmysgu a phedwaredd ran hìn o olew coethedig; a phedwaredd ran hìn o win, yn ddïod-offrwm,
41A’r oen arall a offrymmi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd-offrwm y bore, ac i’w ddïod-offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd:
42Yn boeth-offrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.
43Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant.
44A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a’r allor; ac Aaron a’i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.
45¶ A mi a breswyliaf ym mysg meibion Israel, ac a fyddaf yn Dduw iddynt.
46A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u dygais hwynt allan o dir yr Aipht, fel y trigwn yi eu plith hwynt; myfi yw yr Arglwydd eu Duw.