Llyfr Exodus 3:1
Ei gennadwriaeth ef at Israel. A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i fynydd Duw, Horeb.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 2:16Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a’r rhai hynny a ddaethant ac a dynnasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhâu defaid eu tad.
Exodus 2:21A bu Moses foddlawn i drigo gyd â’r gwr: ac yntau a roddodd Sephorah ei ferch i Moses.
Exodus 4:18¶ A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gâd i mi fyned, attolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aipht, a gweled a ydynt etto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.
Exodus 17:6Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan o honi, fel y gallo y bobl yfed. A Moses a wnaeth felly y’ngolwg henuriaid Israel.
Exodus 18:5A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu ger llaw mynydd Duw.
Exodus 19:3A Moses a aeth i fynu at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel;