Llyfr Exodus 2:16
Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a’r rhai hynny a ddaethant ac a dynnasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhâu defaid eu tad.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:11Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brydnawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr.
Genesis 29:6Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyd â’r defaid.
Genesis 41:45A Pharaoh a alwodd enw Joseph, Saphnath-Paaneah; ac a roddes iddo Asnath, merch Potipherah offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseph allan dros wlad yr Aipht.
Exodus 18:1Jethro yn ymadael. Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aipht;