Llyfr Exodus 3:20
Am hynny mi a estynaf fy llaw, ac a drawaf yr Aipht â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19¶ A mi a wn na edy brenhin yr Aipht i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn.
21A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hyn y’ngolwg yr Aiphtiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw;
Cross References
Genesis 15:14A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.
Exodus 6:6Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid, ac a’ch rhyddhâf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion.
Exodus 9:15O herwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a’th darawaf di a’th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.
Exodus 11:8A’th holl weision hyn a ddeuant i waered attaf fi, ac a ymgrymmant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ol; ac wedi hynny yr âf fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharaoh mewn digllonedd llidiog.
Exodus 12:39A hwy a bobasant y toes a ddygasent allan o’r Aipht yn deisennau croyw; o herwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthiasid hwynt o’r Aipht, ac ni allasant aros, ac ni pharottoisent iddynt eu hun luniaeth.
Deuteronomy 6:22Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion, a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aipht, ar Pharaoh a’i holl dŷ, yn ein golwg ni;