Llyfr Genesis 15:14
A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15A thi a âi at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.
Cross References
Genesis 46:1Mae efe yn dysgu i’w frodyr pa fodd yr attebent Pharaoh. Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beerseba, ac a aberthodd ebyrth i DDuw ei dad Isaac.
Genesis 50:24A dywedodd Joseph wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fynu o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.
Exodus 3:22Ond pob gwraig a fenthyccia gan ei chymmydoges, a chan yr hon fyddo yn cyttal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a’u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac a yspeiliwch yr Aiphtiaid.
Exodus 7:1Troi yr afon yn waed. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwel, mi a’th wneuthum yn dduw i Pharaoh: ac Aaron dy frawd fydd yn brophwyd i tithau.
Exodus 12:32Cymmerwch eich defaid, a’ch gwartheg hefyd, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch finnau.
Deuteronomy 6:22Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion, a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aipht, ar Pharaoh a’i holl dŷ, yn ein golwg ni;