Llyfr Exodus 32:10
Am hynny yn awr gâd i mi lonydd, fel yr ennyno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wàr-galed ydynt.
Cross References
Genesis 18:32Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid cair yno ddeg. Yntau a ddywedodd nis difethaf er mwyn deg.
Exodus 22:24A’m digofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn amddifaid.
Exodus 32:19¶ A bu, wedi dyfod o hono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac ennynodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt îs law y mynydd.
Numbers 14:19Maddeu, attolwg, anwiredd y bobl yma, yn ol dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aipht hyd yma. A dywedodd yr Arglwydd, Maddeuais, yn ol dy air:
Numbers 16:22A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysprydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?
Deuteronomy 9:14Paid â mi, a mi a’u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a’th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt-hwy.