Llyfr Exodus 32:11
A Moses a ymbiliodd ger bron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr ennyna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aipht, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 6:6Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid, ac a’ch rhyddhâf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion.
Numbers 11:11Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?
Numbers 16:22A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysprydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?
Numbers 27:4Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab? Dod i ni feddiant ym mysg brodyr ein tad.
Deuteronomy 9:26Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o’r Aipht â llaw gref.
Psalms 106:23Aeth Israel hefyd i’r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.