Llyfr Exodus 34:10
¶ Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfammod y’ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 34:27Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena i ti y geiriau hyn: oblegid yn ol y geiriau hyn y gwneuthum gyfammod â thi, ac âg Israel.
Deuteronomy 4:32Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o’th flaen di, o’r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, ac o’r naill gwrr i’r nefoedd hyd y cwrr arall i’r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef:
Deuteronomy 10:21Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw, yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a’r ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid.
Deuteronomy 32:30Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r Arglwydd arnynt?
Joshua 10:12¶ Llefarodd Josua wrth yr Arglwydd y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd y’ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.
Psalms 65:5Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a'u gwêl hwynt?