The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 34

1Ei wyneb yn disgleirio; ac yntau yn rhoddi llèn gudd arno. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nâdd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifenaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist.

2A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fynu yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd.

3Ond na ddeued neb i fynu gyd â thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.

4¶ Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchymynasai yr Arglwydd iddo; ac a gymmerodd yn ei law y ddwy lech garreg.

5A’r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmmwl, ac a safodd gyd âg ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr Arglwydd.

6A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;

7Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl âg anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.

8A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tu a’r llawr, ac a addolodd;

9Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, attolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wàr-galed yw,) a maddeu ein hanwiredd, a’n pechod, a chymmer ni yn etifeddiaeth i ti.

10¶ Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfammod y’ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.

11Cadw yr hyn a orchymynais i ti heddyw: wele, mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad, a’r Canaanead, a’r Hethiad, a’r Phereziad, yr Hefiad hefyd, a’r Jebusiad.

12A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfammod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith.

13Eithr dinystriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.

14Canys ni chei ymgrymmu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe;

15Rhag i ti wneuthur cyfammod â phreswylwyr y tir; ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwytta o’u haberth;

16A chymmeryd o honot o’u merched i’th feibion; a phutteinio o’u merched ar ol eu duwiau hwynt, a gwneuthur i’th feibion di butteinio ar ol eu duwiau hwynt.

17Na wna i ti dduwiau tawdd.

18¶ Cadw wyl y bara croyw: saith niwrnod y bwyttêi fara croyw, fel y gorchymynais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o’r Aipht.

19Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwrryw cyntaf o’th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid.

20Ond y cyntaf i asyn a bryni di âg oen; ac oni phryni, torr ei wddf: pryn hefyd bob cyntaf-anedig o’th feibion: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.

21¶ Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorphwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhauaf, y gorphwysi.

22¶ Cadw i ti hefyd wyl yr wythnosau, o flaen-ffrwyth y cynhauaf gwenith, a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.

23¶ Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd Dduw, Duw Israel.

24Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fynu i ymddangos ger bron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn.

25Nac offrymma waed fy aberth gyd â bara lefeinllyd; ac nac arhôed aberth gwyl y Pasc dros nos hyd y bore.

26Dwg y gorau o flaen-ffrwyth dy dir i dŷ yr Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam.

27Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena i ti y geiriau hyn: oblegid yn ol y geiriau hyn y gwneuthum gyfammod â thi, ac âg Israel.

28Ac efe a fu yno gyd â’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, ni fwyttaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifenodd ar y llechau eiriau’r cyfammod, sef y deg gair.

29A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o’r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho.

30A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesâu atto ef.

31A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl bennaethiaid y gynnulleidfa a ddychwelasant atto ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy.

32Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchymynodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai.

33Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes lèn gudd ar ei wyneb.

34A phan ddelai Moses ger bron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llèn gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchymynid iddo.

35A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llèn gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai lefaru wrth Dduw.

← Llyfr Exodus 33Read In The App, Free →Llyfr Exodus 35 →

Study Llyfr Exodus 34

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940