Llyfr Exodus 38:24
Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cyssegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gàn sicl a deg ar hugain, yn ol sicl y cyssegr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 29:24A dod y cwbl yn nwylaw Aaron, ac yn nwylaw ei feibion: a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.
Exodus 30:24Ac o’r casia pwys pùm cant o siclau, yn ol sicl y cyssegr; a hin o olew olew-wydden.
Leviticus 5:15Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gyssegrwyd i’r Arglwydd; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di o siclau arian, yn ol sicl y cyssegr, yn aberth dros gamwedd.
Leviticus 27:25A phob pris i ti fydd wrth sicl y cyssegr: ugain gerah fydd y sicl.
Numbers 18:16A phâr brynu y rhai a bryner o honot, o fab misyriad, yn dy bris di, er pùm sicl o arian, wrth sicl y cyssegr: ugain gerah yw hynny.
1 Chronicles 29:2Ac â’m holl gryfder y parottoais i dŷ fy NUW, aur i’r gwaith aur, ac arian i’r arian, a phres i’r pres, a haiarn i’r haiarn, a choed i’r gwaith coed; meini onix, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml. º