The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 38

1Cyfrif o offrymmau y bobl. Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bùm cufydd ei hŷd, a phùm cufydd ei lled, yn bedeirongl, ac yn dri chufydd ei huchder.

2Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o’r un, ac efe a’i gwisgodd hi â phres.

3Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, a’r cigweiniau, a’r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres.

4Ac efe a wnaeth i’r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi.

5Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwrr yr alch bres, i fyned am drosolion.

6Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim y ac a’u gwisgodd hwynt â phres.

7Ac efe a dynnodd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr allor, i’w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi âg ystyllod.

8¶ Ac efe a wnaeth noe bres, a’i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.

9¶ Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys dehau, tu a’r dehau, llenni’r cynteddfa oedd o lïan main cyfrodedd, o gàn cufydd:

10A’u hugain colofn, ac â’u hugain mortais, o bres: a phennau’r colofnau a’u cylchau, o arian yr oeddynt.

11Ac ar du y gogledd, y llenni oedd gàn cufydd; eu hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres: a phennau’r colofnau a’u cylchau o arian.

12Ac o du y gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a’u deg mortais, a phennau y colofnau, a’u cylchau, o arian.

13Ac i du’r dwyrain tu a’r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain.

14Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o’r naill du i’r porth; eu tair colofn, a’u tair mortais.

15Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, o ddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a’u tair mortais.

16Holl lenni y cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o lïan main cyfrodedd.

17A morteisiau y colofnau, oedd o bres; pennau y colofnau, a’u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian, a holl golofnau y cynteddfa oedd wedi eu cylchu âg arian.

18A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hŷd, a’i huchder o’i lled yn bùm cufydd, ar gyfer llenni y cynteddfa.

19Eu pedair colofn hefyd, a’u pedair mortais, oedd o bres; a’u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a’u cylchau oedd arian.

20A holl hoelion y tabernacl, a’r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres.

21¶ Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad.

22A Bezaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Judah, a wnaeth yr hyn oll a orchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.

23A chyd âg ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwnïedydd mewn sidan glas, ac mewn porphor, ac mewn ysgarlad, ac mewn llïan main.

24Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cyssegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gàn sicl a deg ar hugain, yn ol sicl y cyssegr.

25Ac arian y rhai a gyfrifwyd o’r gynnulleidfa, oedd gàn talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thri ugain, yn ol sicl y cyssegr.

26Becah am bob pen; sef hanner sicl, yn ol sicl y cyssegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod: sef am chwe chàn mil a thair mil a phùm cant a deg a deugain.

27Ac o’r càn talent arian y bwriwyd morteisiau y cyssegr, a morteisiau y wahanlen; càn mortais o’r càn talent, talent i bob mortais.

28Ac o’r mil a saith gant a phymtheg sicl a thri ugain, y gwnaeth efe bennau’r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.

29A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thri ugain, a dwy fil a phedwar cant o siclau.

30Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a’r allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri yr allor;

31A morteisiau y cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.

← Llyfr Exodus 37Read In The App, Free →Llyfr Exodus 39 →

Study Llyfr Exodus 38

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940