Llyfr Exodus 7:11
A Pharaoh hefyd a alwodd am y doethion, a’r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aipht, a wnaethant felly trwy eu swynion.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 41:38A dywedodd Pharaoh wrth ei weision, A gaem ni wr fel hwn, yr hwn y mae yspryd Duw ynddo?
Exodus 8:3A’r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i’th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.
Exodus 8:18A’r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu y llau ar ddyn ac ar anifail.
Isaiah 19:11Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd? º
Daniel 2:2A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i’r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin.
Daniel 4:7Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o’u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.