Llyfr Exodus 7
1Troi yr afon yn waed. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwel, mi a’th wneuthum yn dduw i Pharaoh: ac Aaron dy frawd fydd yn brophwyd i tithau.
2Ti a leferi yr hyn oll a orchymynwyf i ti; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharaoh, ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o’i wlad.
3A minnau a galedaf galon Pharaoh, ac a amlhâf fy arwyddion a’m rhyfeddodau y’ngwlad yr Aipht.
4Ond ni wrendy Pharaoh arnoch: yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aipht; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel, o wlad yr Aipht, trwy farnedigaethau mawrion.
5A’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan estynwyf fy llaw ar yr Aipht, a dwyn meibion Israel allan o’u mysg hwynt.
6A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchymynodd yr Arglwydd iddynt; ïe, felly y gwnaethant.
7A Moses ydoedd fab pedwar ugain mlwydd, ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain, pan lefarasant wrth Pharaoh.
8¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
9Pan lefaro Pharaoh wrthych, gan ddywedyd, Dangoswch gennych wyrthiau; yna y dywedi wrth Aaron, Cymmer dy wïalen, a bwrw hi ger bron Pharaoh; a hi a â yn sarph.
10¶ A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharaoh, ac a wnaethant felly, megis y gorchymynasai yr Arglwydd: ac Aaron a fwriodd ei wïalen ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision; a hi a aeth yn sarph.
11A Pharaoh hefyd a alwodd am y doethion, a’r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aipht, a wnaethant felly trwy eu swynion.
12Canys bwriasant bob un ei wïalen; a hwy a aethant yn seirph: ond gwïalen Aaron a lyngcodd eu gwïail hwynt.
13A chalon Pharaoh a galedodd, fel na wrandawai arnynt hwy; megis y llefarasai yr Arglwydd.
14¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Caledodd calon Pharaoh; gwrthododd ollwng y bobl ymaith.
15Dos at Pharaoh yn fore: wele efe a ddaw allan i’r dwfr; saf dithau ar làn yr afon erbyn ei ddyfod ef; a chymmer yn dy law y wïalen a drodd yn sarph.
16A dywed wrtho ef, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a’m hanfonodd attat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit.
17Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: wele, myfi â’r wïalen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon, fel y tröer hwynt yn waed.
18A’r pysg sydd yn yr afon a fyddant feirw, a’r afon a ddrewa; a bydd blin gan yr Aiphtiaid yfed dwfr o’r afon.
19¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Cymmer dy wïalen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aipht, ar eu ffrydiau, ar eu hafonydd, ac ar eu pyllau, ac ar eu holl lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aipht, yn eu llestri coed a cherrig hefyd.
20A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchymynodd yr Arglwydd: ac efe a gododd ei wïalen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon, y’ngŵydd Pharaoh, ac y’ngŵydd ei weision; a’r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a dröwyd yn waed.
21A’r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a’r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Aiphtiaid yfed dwfr o’r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aipht.
22A swynwyr yr Aipht a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharaoh, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.
23A Pharaoh a drodd ac a aeth i’w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon.
24A’r holl Aiphtiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i’w yfed, canys ni allent yfed o ddwfr yr afon.
25A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i’r Arglwydd daro’r afon.