Llyfr Exodus 7:20
A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchymynodd yr Arglwydd: ac efe a gododd ei wïalen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon, y’ngŵydd Pharaoh, ac y’ngŵydd ei weision; a’r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a dröwyd yn waed.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 4:9A bydd, oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymmeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymmerech o’r afon yn waed ar y tir sych.
Exodus 7:10¶ A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharaoh, ac a wnaethant felly, megis y gorchymynasai yr Arglwydd: ac Aaron a fwriodd ei wïalen ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision; a hi a aeth yn sarph.
Exodus 17:5A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymmer gyd â thi o henuriaid Israel: cymmer hefyd dy wïalen yn dy law, yr hon y tarewaist yr afon â hi, a cherdda.
Numbers 20:8Cymmer y wïalen, a chasgl y gynnulleidfa, ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dïoda y gynnulleidfa a’u hanifeiliaid.
Psalms 105:29Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch.
Revelation 8:8A’r ail angel a utganodd; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i’r môr: a thraean y môr a aeth yn waed;