Llyfr Exodus 8:19
Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharaoh, Bys Duw yw hyn: a chaledwyd calon Pharaoh, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 41:24A’r tywysenau teneuon a lyngcasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a’i dehonglai i mi.
Exodus 9:4A’r Arglwydd a neilldua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Aiphtiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel.
Exodus 10:7A gweision Pharaoh a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr Arglwydd eu Duw: Oni wyddost ti etto ddifetha yr Aipht?
Exodus 11:7Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symmud ci ei dafod, ar ddyn, nac anifail; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Aiphtiaid ac Israel.
1 Samuel 6:9Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a’n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni.
Daniel 2:10Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead.