The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 8

1etto efe a galedir. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharaoh, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

2Ac os gwrthodi eu gollwng, wele, mi a darawaf dy holl derfynau di â llyffaint.

3A’r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i’th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.

4A’r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.

5¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â’th wïalen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fynu ar hyd tir yr Aipht.

6Ac Aaron a estynodd ei law ar ddyfroedd yr Aipht; a’r llyffaint a ddaethant i fynu, ac a orchuddiasant dir yr Aipht.

7A’r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fynu lyffaint ar wlad yr Aipht.

8¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr Arglwydd, ar iddo dynnu’r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i’r Arglwydd.

9A Moses a ddywedodd wrth Pharaoh, Cymmer ogoniant arnaf fi; Pa amser y gweddïaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa y llyffaint oddi wrthyt, ac o’th dai, a’u gadael yn unig yn yr afon?

10Ac efe a ddywedodd, Y fory. A dywedodd yntau. Yn ol dy air y bydd; fel y gwypech nad oes neb fel yr Arglwydd ein Duw ni.

11A’r llyffaint a ymadawant â thi, ac â’th dai, ac â’th weision, ac â’th bobl; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt.

12A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharaoh. A Moses a lefodd ar Arglwydd, o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharaoh.

13A’r Arglwydd a wnaeth yn ol gair Moses; a’r llyffaint a fuant feirw o’r tai, o’r pentrefydd, ac o’r meusydd.

14A chasglasant hwynt yn bentyrrau; fel y drewodd y wlad.

15Pan welodd Pharaoh fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

16¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy wïalen, a tharo lwch y ddaear, fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aipht.

17Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â’i wïalen, ac a darawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aipht.

18A’r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu y llau ar ddyn ac ar anifail.

19Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharaoh, Bys Duw yw hyn: a chaledwyd calon Pharaoh, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

20¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf ger bron Pharaoh; wele, efe a ddaw allan i’r dwfr: yna dywed wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

21O herwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th dai, gymmysgbla: a thai yr Aiphtiaid a lenwir o’r gymmysgbla, a’r ddaear hefyd yr hon y maent arni.

22A’r dydd hwnnw y neillduaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo’r gymmysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd y’nghanol y ddaear.

23A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a’th bobl di: y fory y bydd yr arwydd hwn.

24A’r Arglwydd a wnaeth felly; a daeth cymmysgbla drom i dŷ Pharaoh, ac i dai ei weision, ac i holl wlad yr Aipht; a llygrwyd y wlad gan y gymmysgbla.

25¶ A Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, aberthwch i’ch Duw yn y wlad.

26A dywedodd Moses, Nid cymmwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw ffieiddbeth yr Aiphtiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Aiphtiaid y’ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?

27Taith tridiau yr awn i’r anialwch, a nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw, megis y dywedo efe wrthym ni.

28A dywedodd Pharaoh, Mi a’ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i’r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch; ond nac ewch ym mhell: gweddïwch trosof fi.

29A dywedodd Moses, Wele, myfi a âf allan oddi wrthyt, ac a weddïaf ar yr Arglwydd, ar gilio y gymmysgbla oddi wrth Pharaoh, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobi, y fory: ond na thwylled Pharaoh mwyach, heb ollwng ymaith y bobl, i aberthu i’r Arglwydd.

30A Moses a aeth allan oddi wrth Pharaoh, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.

31A gwnaeth yr Arglwydd yn ol gair Moses: a’r gymmysgbla a dynnodd efe ymaith oddi wrth Pharaoh, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl; ni adawyd un.

32A Pharaoh a galedodd ei galon y waith honno hefyd, ac ni ollyngodd ymaith y bobl.

← Llyfr Exodus 7Read In The App, Free →Llyfr Exodus 9 →

Study Llyfr Exodus 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940