Llyfr Exodus 8:22
A’r dydd hwnnw y neillduaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo’r gymmysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd y’nghanol y ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
23A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a’th bobl di: y fory y bydd yr arwydd hwn.
Cross References
Exodus 7:17Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: wele, myfi â’r wïalen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon, fel y tröer hwynt yn waed.
Exodus 9:4A’r Arglwydd a neilldua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Aiphtiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel.
Exodus 9:26Yn unig y’ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.
Exodus 10:23Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.
Exodus 12:13A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr âf heibio i chwi, ac ni bydd pla dinystriol arnoch chwi, pan darawyf dir yr Aipht.
Psalms 110:2Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: A thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn.