Llyfr Exodus 8:8
¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr Arglwydd, ar iddo dynnu’r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i’r Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 5:2A dywedodd Pharaoh, Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandâwn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf.
Exodus 8:26A dywedodd Moses, Nid cymmwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw ffieiddbeth yr Aiphtiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Aiphtiaid y’ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?
Exodus 9:33A Moses a aeth oddi wrth Pharaoh allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylaw at yr Arglwydd; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear.
Exodus 10:17Ac yn awr maddeu, attolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.
Exodus 10:24¶ A galwodd Pharaoh am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd; arhôed eich defaid, a’ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyd â chwi.
Exodus 14:5¶ A mynegwyd i frenhin yr Aipht, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharaoh a’i weisionyn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu?