Llyfr Eseciel 12:14
A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i'w gynorthwyo, a'i holl fyddinoedd, tua phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Kings 25:4A’r ddinas a dorrwyd, a’r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a’r brenin a aeth y ffordd tua’r rhos. º
Jeremiah 42:22Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.
Ezekiel 5:10Am hynny y tadau a fwytant y plant yn dy fysg di, a'r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt.
Ezekiel 14:17"Neu os cleddyf a ddygaf ar y tir hwnnw, a dywedyd ohonof, Cyniwait, gleddyf, trwy y tir; fel y torrwyf ymaith ohono ddyn ac anifail:
Ezekiel 17:21A'i holl ffoaduriaid ynghyd a'i holl fyddinoedd a syrthiant gan y eleddyf, a'r gweddill a wasgerir gyda phob gwynt; fel y gwypoch mai myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.