Llyfr Eseciel 12
1Agair yr ARGLWYDD a- ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2Trigo yr wyt ti, fab dyn,yng nghanol t' gwrthryfelgar, y rhai y mae llygaid iddynt i weled, ac ni welant; clustiau iddynt i glywed, ac ni chlywant: canys ty gwrthryfelgar ydynt.
3A thithau, fab dyn, gwna i ti offer caethglud, a muda liw dydd o fiaen eu llygaid hwynt; ie, muda o'th Ie dy hun i Ie arall yng ngwydd eu llygaid hwynt: nid hwyrach y gwelant, er eu bod yn dy gwrthryfelgar.
4A dwg allan dy ddodrefn liw dydd yng ngwydd eu llygaid, fel dodrefn caethglud: a dos allan yn yr hwyr yng, ngwydd eu llygaid, fel rhai yn myned allan i gaethglud.
5Cloddia i ti o flaen eu llygaid hwynt trwy y mur, a dwg allan trwy hwnnw.
6Ar dy ysgwydd y dygi yng ngwydd eu llygaid hwynt, yn y tywyll y dygi allan: dy wyneb a guddi, fel na welych y ddaear: canys yn arwydd y'th roddais i dŷ Israel.
7Ac mi a wneuthum felly fel y'm gorchmynnwyd: dygais fy offer allan liw dydd, fel offer caethglud; ac yn yr hwyr y cloddiais trwy y mur;i'm llaw: yn y tywyll y dygais. allan, ar fy ysgwydd y dygais o fiaen eu llygaid hwynt.
8A'r bore y daeth gair yr ARQLWYB-D ataf, gan ddywedyd,
9Ha fab dyn, oni ddywedodd t Israel, y ty gwrthryfelgar, wrthyt, Beth yr witt ti yn ei wneuthur?
10Dywed di wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, I'r tywysqg yn Jerwsalem y mae y baich hwn, ac i holl d Israel y rhai sydd yn eu mysg.
11Dywed, Eich arwydd chwi ydwyf fi; fel y gwneuthum i, felly y gwneis iddynt hwy: mewn caethglud yr ânt i gaethiwed.
12A'r tywysog yr hwn sydd yn eit eanol a ddwg ar ei ysgwydd yn y tywyll, ac a a allan: cloddiant trwy y mur, i, ddwyn allan trwyddo: ei wyneb a guddia fel na welo efe y ddaear a'i lygaid.
13A mi a daenaf fy rhwyd arno ef, fel y dalier ef yn fy rhwyd: a dygaf ef t Babilon, tir y Caldeaid; ac ni wel efe hi, eto yno y bydd efe farw.
14A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i'w gynorthwyo, a'i holl fyddinoedd, tua phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
15A hwy a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, wedi gwasgaru ohonof hwynt ymysg y cenhedloedd, a'u taenu ar hyd y gwledydd.
16Eto gweddillaf ohonynt ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf, oddi wrth y newyn, ac oddi wrth yr haint; fel y mynegont eu holl ffieidd-dra ymysg y cenhedloedd, lle y delont: a gwybyddant mai myfi yw yr ARGLWYDD.
17Gair yr ARGLWYDD hefyd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
18Ha fab dyn, bwytei dy fara dan grynu, a'th ddwfr a yfi mewn dychryn a gpfal:
19A dywed wrth bobl y tir, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am drigolion Jerwsalem, ac am wlad Israel; Eu bara a fwytant mewn gofal, a'u dwfr a yfant mewn syndod, fel yr anrheithir ei thir o'i chyflawnder, am drais y rhai oll a drigant ynddi.
20A'r dinasoedd cyfanheddol a anghyf-anheddir, a'r tir a fydd anrheithiol; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
21A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
22Ha fab dyn, beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel, gan ddywedyd, Y dyddiau a estynnwyd, a darfu am bob gweledigaeth? 33 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gwnafi'r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth.
24Canys ni bydd mwy un weledigaeth ofer, na dewiniaeth wenieithus, o fewn ty Israel.
25Canys myfi yw yr ARGLWYDD: mi a iefaraf, a'r gair a lefarwyf a wneir; nid oedir ef mwy: oherwydd yn eich dyddiau chwi, O dy gwrthryfelgar, y dywedaf y gair, ac a'i gwnaf, medd yr ARGLWYDD DDUW.
26A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
27Ha fab dyn, wele dy Israel yn dy-wedyd, Y weledigaeth a wôl efe fydd wedi dyddiau lawer, a phroffwydo y mae efe am amseroedd pell.
28Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Nid oedir dim o'm geiriau mwy, ond y gair a ddywedais a wneir, medd yr ARGLWYDD DDUW.