Llyfr Eseciel 12:16
Eto gweddillaf ohonynt ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf, oddi wrth y newyn, ac oddi wrth yr haint; fel y mynegont eu holl ffieidd-dra ymysg y cenhedloedd, lle y delont: a gwybyddant mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17Gair yr ARGLWYDD hefyd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
Cross References
Leviticus 26:40Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio o honynt yn y gwrthwyneb i mi,
1 Kings 9:6Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a’ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fy ngorchmynion a’m deddfau, y rhai a roddais o’ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy: º
Isaiah 1:9Oni buasai i ARGLWYDD y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buiasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.
Isaiah 10:19A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt. º
Isaiah 24:13Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin. º
Jeremiah 4:27Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Y tir oll fydd diffeithwch: ac eto ni wnaf ddiben.