Llyfr Eseciel 14:19
Neu os haint a anfonaf i'r wlad honno, a thywallt ohonof fy llid ami mewn gwaed, gan dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 16:46¶ Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymmer thusser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl-darth arni, a dos yn fuan at y gynnulleidfa, a gwna gymmod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi ger bron yr Arglwydd, dechreuodd y pla.
Deuteronomy 28:59Yna y gwna yr Arglwydd dy bläau di yn rhyfedd, a phläau dy had; sef pläau mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus.
2 Samuel 24:15Yna y rhoddes yl ARGLWYDD haint yn Israel, o’r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o’r bobl, o.Dan hyd Beer-seba ddeng mil a thrigain o wŷr. º
2 Chronicles 6:28Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, deifiad, neu falltod, os bydd locustiaid neu lindys; os gwarchae ei elyn arno ef yn ninasoedd ei wlad; neu pa bla bynnag, neu glefyd bynnag a fyddo;
2 Chronicles 20:9Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a’n gwaredi ni.
Psalms 91:6Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistria a ddinistrio ganol dydd.