The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 14

1YNA y daeth ataf wyr o henuriaid Israel, ac a eisteddasant o'm blaen.

2A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

3Y gwyr hyn, O fab dyn, a ddyrchafasant eu heilunod yn eu calonnau, ac a' roddasant dramgwydd eu hanwiredd ar gyfer eu hwynebau: gan ymofyn a ymofyn y cyfryw a myfi?

4Am hynny ymddiddan a hwynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Pob un o dy Israel, yr hwn a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddaw at y proffwyd; myfi yr ARGLWYDD a atebaf yr hwn a ddelo yn ôl amider ei eilunod,

5I ddal ty Israel yn eu calonnau, am iddynt ymddieithrio oddi wrthyf oll trwy eu heilunod.

6Am hynny dywed wrth dy Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Trowch, a dychwelwch oddi wrth eich eilunod, a throwch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd-dra.

7Canys pob un o dy Israel, ac o'r dieithr a ymdeithio o fewn Israel, & ymneilltuo oddi ar fy ôl i, ac a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dram¬gwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddel at broffwyd i ymofyn a myfi trwyddo ef; myfi yr ARGLWYDD a atebaf iddo trwof fy hun.

8Gosodaf hefyd fy wyneb yn erbyn y gŵr hwnny: a gwnaf ef yn arwydd ac yn ddihareb, a thorraf ef ymaith o fysg fy mhobl; fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.

9Ac os twyllir y proffwyd pan lefaro air, myfi yr ARGLWYDD a dwyllodd y proffwyd hwnnw; a mi a estynnaf hefyd fy llaw arno ef, ac a'i difethaf o fysg fy mhobl Israel.

10A hwy a ddygant eu hanwiredd: un fath fydd anwiredd yr ymofynnydd ag anwiredd y proffwyd:

11l'"cl na chyfeiliorno ty Israel mwy oddi ar fy ôl, ac na haloger hwy mwy a'u holl droseddau; ond bod ohonynt i mi yn bobl, a minnau iddynt hwy yn DDUW, medd yr Arglwydd DDUW.

12A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,.

13Ha fab dyn, pan becho gwlad i'm herbyn tiroy waeuthui camwedd, yna yr estynnaf fy llaw arni, a thorraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a dorraf ymaith ohoni ddyn ac anifail.

14Pe byddai yn ei chanol y triwyr hyn, Noa, Daniel, a Job, hwynt-hwy yn eu cyfiawnder a achubent eu henaid eu hun yn unig, medd yr ARGLWYDD DDUW.

15y Os bwystfil niweidiol a yrraf trwy y wlad, a'i difa o hwnnw, fel y byddo yn anghyfannedd, heb gyniweirydd rhag ofn y bwystfil:

16Pe byddai y triwyr hyn yn ei chanol, fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW., ni waredent na meibion na merchedi hwynt-hwy yn 'unig a waredid, a'r tir -a fyddai yn anghyfannedd.

17"Neu os cleddyf a ddygaf ar y tir hwnnw, a dywedyd ohonof, Cyniwait, gleddyf, trwy y tir; fel y torrwyf ymaith ohono ddyn ac anifail:

18A'r triwyr hyn yn ei ganol, fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni achubent na meibion na merched, ond hwynt-hwy yn unig a achubid.

19Neu os haint a anfonaf i'r wlad honno, a thywallt ohonof fy llid ami mewn gwaed, gan dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail;

20A Noa, Daniel, a Job, yn ei chanol hi; fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni waredent na mab na merch; hwynt-hwy yn eu cyfiawnder a waredeat eu heneidiau eu hun yn unig.

21Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Pa faint mwy, pan anfonwyf fy mhedair drygfarn, cleddyf, a newyn, a bwystfil niweidiol, a haint, ar Jerwsalem., i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail?

22Sl Eto wele, bydd ynddi weddill dihangol, y rhai a ddygir allan, yn feibion a merched: wele hwynt yn dyfod allan atoch, a chewch weled eu ffyrdd hwynt a'u gweithredoedd; fel yr ymgysuroch oherwydd yr adfyd a ddygais ar Jerwsalem, sef yr hyn oll a ddygais ami.

23Ie, cysurant chwi, pan weloch eu ffordd a'u gweithredoedd: a chewch wybod nad heb achos y gwneuthum yr ESECIBfc 36 hyn oll a wneuthumjfw'hetlayn hi, medd yr ARGLWYDD DDUW.

← Llyfr Eseciel 13Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 15 →

Study Llyfr Eseciel 14

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748