Llyfr Eseciel 16:11
Mi a'th herddais hefyd a harddwolt; a rhoddais freichledau am dy ddwylo, a chadwyn am dy wddf.
Beibl (1620)
In The King James Version
I decked thee also with ornaments, and I put bracelets upon thy hands, and a chain on thy neck.
In Context
12Rhoddais hefyd dlws ar dy daloen, a thiysau wrth dy glustiau, a choron hardd am dy ben.
Cross References
Genesis 24:22A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymmeryd o’r gwr glust-dlws aur, yn banner sicl ei bwys; a dwy freichled i’w dwylaw hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys.
Genesis 24:53A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd, ac a’u rhoddodd i Rebeccah: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i’w brawd hi, ac i’w mam.
Genesis 41:42A thynnodd Pharaoh ei fodrwy oddi ar ei law, ac a’i rhoddes hi ar law Joseph, ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef,
Exodus 35:22A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlust-dlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gwr a’r a offrymmodd offrwm, a offrymmodd aur i’r Arglwydd.
Numbers 31:50Am hynny yr ydym yn offrymmu offrwm i’r Arglwydd, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glust-dlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymmod dros ein heneidiau ger bron yr Arglwydd.
Esther 2:17A’r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd, a hi a gafodd ffafr a charedigrwydd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl wyryfon; ac efe a osododd y deyrngoron ar ei phen hi, ac a’i gwnaeth yn frenhines yn lle Fasti.