Llyfr Exodus 35:22
A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlust-dlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gwr a’r a offrymmodd offrwm, a offrymmodd aur i’r Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 31:50Am hynny yr ydym yn offrymmu offrwm i’r Arglwydd, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glust-dlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymmod dros ein heneidiau ger bron yr Arglwydd.
2 Chronicles 24:9A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i’r ARGLWYDD dreth Moses gwas Duw, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch.
Nehemiah 7:70A rhai o’r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith. Y Tirsatha a roddodd i’r trysor fil o ddracmonau aur, deg a deugain o ffiolau, pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid.
Isaiah 60:9Yn ddiau yr ynysoedd a’m disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a’u haur gyda hwynt, i enw yr ARGLWYDD dy DDUW, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di. º
Ezekiel 16:11Mi a'th herddais hefyd a harddwolt; a rhoddais freichledau am dy ddwylo, a chadwyn am dy wddf.
Mark 12:41¶ A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.