Llyfr Eseciel 16:38
Barnaf di hefyd a barnedigaethau puteiniaid, a'r rhai a dywalltant waed; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 38:11Yna Judah a ddywedodd wrth Tamar ei waudd, Trig yn weddw yn nhŷ dy dad, hyd oni chynnyddo fy mab Selah: (oblegid efe a ddywedodd, Rhag ei farw yntau fel ei frodyr.) A Thamar a aeth, ac a drigiodd yn nhŷ ei thad.
Exodus 21:12¶ Rhodder i farwolaeth y neb a darawo wr, fel y byddo marw.
Numbers 35:16Ac os âg offeryn haiarn y tarawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.
Numbers 35:18Neu os efe a’i tarawodd ef â llaw-ffon, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, a’i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.
Numbers 35:31Hefyd, na chymmerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw.
Deuteronomy 22:24Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llangces, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gwr, o herwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymmydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg.