Llyfr Eseciel 18:23
Gan ewyllysio a ewyllysiwn i farw yr annuwiol, medd yr ARGLWYDD DDUW, ac na ddychwelai oddi wrth ei ffyrdd, a byw?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth: yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw.
Cross References
2 Samuel 14:14Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug Duw ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho.
Ezekiel 33:11Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o'r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, ty Israel, paham y byddwch feirw?
Micah 7:18Pa DDUW sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd.
Luke 15:10Felly, meddaf i chwi, y -mae llaw¬enydd yng ngwydd angylion Dwv am un pechadur a edifarhao.