The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 18

1AGAIR yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2Paham gennych arferu y ddihareb hon am dir Israel, gan ddywed yd, Y tadau a fwytasant rawnwin sunon, ac ar ddannedd y plant y mae dincod?

3Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni bydd i chwi mwy arferu y ddïareb hon yn Israel.

4Wele, yr holl eneidiau eiddof fi ydynt; fel enaid y tad, felly hefyd enaid y mab, eiddof fi ydynt; yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.

5Canys os bydd gwr yn gyfiawn, ac yn gwneuthur barn a chyfiawnder,

6Heb fwytta ar y mynyddoedd, na chyfodi ei lygaid at eilunod tŷ Israel, ac heb halogi gwraig ei gymmydog, na nesâu at wraig fisglwyfus,

7Na gorthrymu neb, ond a roddes ei wysti i’r dyledwr yn ei ol, ni threisiodd draia, ei fara a roddodd i’r newynog, ac a ddilladodd y noeth,

8Ni roddes ar usuriaeth, ac ni chymmeredd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hol oddi wrth anwiredd, gwir farn a wnaeth rhwng gwr a gwr.

9Yn fy neddfau y rhodiodd, a’m barnedigaethau a gadwodd, i wneuthur gwirionedd: cyfiawn yw; gan fyw efe a fydd byw, medd yr ARGLWYDD DDUW.

10Os cenhedla efe fab yn lleidr, ac yn tywallt gwaed, ac a wna gyffelyb i’r un o’r pethau hyn,

11Ac ni wna yr un o’r pethau hynny, ond ar y mynyddoedd y bwytty, a gwraig ei gymmydog a haloga,

12Yr anghenus a’r tlawd a orthrymma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eilunod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd-dra,

13Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymmerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd-dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.

14Ac wele, os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe, ac a ystyria, ac ni wna felly,

15Ar y mynyddoedd ni fwytty, a’i lygaid ni chyfyd at eilunod tŷ Israel, ni haloga wraig ei gymmydog,

16Ni orthrymma neb chwaith, ni attal wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i’r newynog, a’r noeth a ddillada,

17Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog, usuriaeth na llog ni chymmer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia: hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad; gan fyw y bydd efe byw.

18Ei dad, am orthrymmu yn dost, a threisio ei frawd trwy orthrech, a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ym mysg ei bobl, wele, efe a fydd marw yn ei anwiredd.

19Etto chwi a ddywedwch, Paham? oni ddwg y mab anwiredd y tad? Pan wnelo y mab farn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau, a’u gwneuthur hwynt, gan fyw efe a fydd byw.

20Yr enaid a becho, hwnnw a fydd marw. Y mab ni ddwg anwiredd y tad, a’r tad ni ddwg anwiredd y mab: cyfiawnder y cyfiawn fydd arno ef, a drygioni y drygionus fydd arno yntau.

21Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe gan fyw a fydd byw; ni bydd efe marw.

22Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth: yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw.

23Gan ewyllysio a ewyllysiwn i farw yr annuwiol, medd yr ARGLWYDD DDUW, ac na ddychwelai oddi wrth ei ffyrdd, a byw?

24Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ol yr holl ffieidd-dra a wnelo yr annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw.

25Etto chwi a ddywedwch, Nid cymmwys yw ffordd yr ARGLWYDD. Gwrandêwch yr awr hon, tŷ Israel, onid yw gymmwys fy ffordd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymmwys?

26Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthir anwiredd, a marw ynddynt; am ei anwiredd a wnaeth y bydd efe marw.

27A phan ddychwelo yr annuw iol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a. gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fyw ei enaid.

28Am iddo ystyried, a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth, gan fyw y bydd byw, ni bydd marw.

29Eto t Israel a ddywedant, Nid cymwys yw ffordd yr ARGLWYDD. Ty Israel, onid cymwys fy ffyrdd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys?

30Am hynny barnaf chwi, ty Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun, medd yr AR¬GLWYDD DDUW. Dychwelwch, a throwch oddi wrth eich holl gamweddau; fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi.

31Bwriwch oddi wrthyeh eich holl gamweddau y camweddasoch ynddynt, a gwnewch i chwi galon newydd, ac ysbryd newydd: canys paham, ty Israel, y byddwch feirw?

32Canys nid oes ewyllys gennyf i farwolaeth y marw, medd yr ARGLWYDD DDUW, Dychwelwch gan hynny, a byddwch fyw.

← Llyfr Eseciel 17Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 19 →

Study Llyfr Eseciel 18

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748